Breaking news
Africa's week in pictures: 14-20 September 2018 -
Susie Dent reveals the origins of English rainy-day phrases -
UKIP bids to be 'radical, populist' party -
A Kim Jong Un visit to Seoul? It would be surreal challenge -
Chile military parade offers a showcase for ... puppies? -
Cat killer mystery solved, but how do we keep our pets safe? -
US imposes sanctions on China for buying Russian weapons -
Gareth Bennett urges UKIP to be radical after Brexit -

Cyhuddo ail berson wedi cyrch arfog yng Nghaerdydd

Cyhuddo ail berson wedi cyrch arfog yng Nghaerdydd
Cyhuddo ail berson wedi cyrch arfog yng Nghaerdydd
Image caption Swyddog heddlu ger y tŷ yn Nhrelái ddydd Mercher

Mae'r heddlu wedi cyhuddo ail berson o fod ym meddiant deunydd ffrwydrol yn dilyn cyrch gan blismyn arfog yng Nghaerdydd.

Cafodd Natalie Parsons, 51, ei harestio ar yr un pryd â dyn 27 oed wedi'r cyrch yn Nhrelái ddydd Mercher.

Fe wnaeth y dyn - Edward John Harris - ymddangos o flaen ynadon yn Llundain ddydd Sadwrn wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau yn ymweud â ffrwydron.

Mae Ms Parsons yn wynebu cyhuddiadau tebyg.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei bod yn wynebu dau gyhuddiad o greu neu bod â deunydd ffrwydrol yn ei meddiant gyda'r bwriad o bergylu bywyd neu achosi difrod i eiddo.

Hefyd mae'n wynebu pedwar cyhuddiad o fod â dogfennau terfysgol yn ei meddiant.

Mae wedi ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi fynd o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Llun.

Mae'r heddlu wedi pwysleisio nad oes tystiolaeth i awgrymu unrhyw fygythiad terfysgol penodol i Gaerdydd na risg uwch i bobl yn y ddinas.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV News24.com | Why Bobi Wine represents such a big threat to Museveni
NEXT Wales 0-3 England: Phil Neville hails 'great night for women's football'