Breaking news
Africa's week in pictures: 14-20 September 2018 -
Susie Dent reveals the origins of English rainy-day phrases -
UKIP bids to be 'radical, populist' party -
A Kim Jong Un visit to Seoul? It would be surreal challenge -
Chile military parade offers a showcase for ... puppies? -
Cat killer mystery solved, but how do we keep our pets safe? -
US imposes sanctions on China for buying Russian weapons -
Gareth Bennett urges UKIP to be radical after Brexit -

Thomas yn cystadlu yn y Tour of Britain yn ne Cymru

Thomas yn cystadlu yn y Tour of Britain yn ne Cymru
Thomas yn cystadlu yn y Tour of Britain yn ne Cymru
Image caption Geraint Thomas yn ystod dathliadau ei fuddugoliaeth yng Nghaerdydd fis diwethaf

Mae disgwyl miloedd o bobl ar hyd llwybr cymal agoriadol y Tour of Britain ddydd Sul wrth i Geraint Thomas gystadlu yng Nghymru am y tro cyntaf fel pencampwr y Tour de France.

Mae'r ras wyth cymal, 109 milltir o hyd yn cychwyn ym Mharc Gwledig Pen-bre - y tro cyntaf i ras feicio broffesiynol fwyaf Prydain ymweld â Sir Gaerfyrddin - ac fe fydd cyd-seiclwr Thomas o Team Sky, Chris Froome hefyd yn cymryd rhan.

Bydd rhannau o'r ffordd ar gau am gyfnodau wrth i'r ras fynd heibio ac mae'r trefnwyr yn rhybuddio y bydd ffyrdd cyfagos hefyd yn brysur.

Mae'r ras yn cychwyn am 11:00 ac yn gorffen tua 15:00 yng Nghasnewydd.

Y cyngor i unrhyw un sy'n bwriadu gweld y ras yw i gyrraedd mannau gwylio penodol o leiaf hanner awr cyn y mae disgwyl i'r seiclwyr gyrraedd.

Image copyright Gwefan Cyngor Sir Gaerfyrddin
Image caption Mae gwybodaeth lawn am y ras ar gyfer y cyhoedd ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae manylion llawn ar-lein ynglŷn â'r trefniadau yn Sir Gaerfyrddin ac yng Nghasnewydd.

Bydd y cymal yn dod i ben y tu allan i gampws Prifysgol De Cymru ar Usk Way, sy'n golygu bod maes parcio yng nghanolfan siopa gyfagos Friars Walk ynghau.

Mae trefnwyr wedi rhybuddio'r cyhoedd bod "tynnu hunluniau'n hwyl" ond bod "troi eich cefn ar y ras byth yn syniad da".

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Geraint Thomas a Chris Froome yn rasio yn erbyn ei gilydd yn y Tour of Britain am y tro cyntaf ers 2009

Maen nhw'n cynghori cefnogwyr i wynebu'r "beicwyr a chonfoi'r ras bob amser" ac i gofio "mai eu ras nhw yw hon.

"Peidiwch â rhwystro'u llwybr, rhedeg ochr yn ochr â nhw, nac amharu ar eu cynnydd."

Mae rhan o'r ras wedi ei chynnal rywle yng Nghymru bob blwyddyn ers wyth mlynedd.

Yng Nghaerdydd 'roedd cymal olaf ras y llynedd ac Ynys Môn oedd lleoliad cam agoriadol Tour of Britain 2015.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV News24.com | Why Bobi Wine represents such a big threat to Museveni
NEXT Gwrth-Semitiaeth: 'Angen gwaith caled'