Cyhuddo dyn wedi cyrch gwrth-derfysgaeth yng Nghaerdydd

Cyhuddo dyn wedi cyrch gwrth-derfysgaeth yng Nghaerdydd
Cyhuddo dyn wedi cyrch gwrth-derfysgaeth yng Nghaerdydd
Image caption Swyddog heddlu ger y tŷ yn Elái ddydd Mercher

Bydd dyn 27 oed o Gaerdydd yn mynd o flaen ynadon yn Llundain ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau'n ymwneud â ffrwydron.

Mae Edward John Harris yn wynebu pedwar cyhuddiad o greu deunydd ffrwydrol neu ei gael yn ei feddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Hefyd mae'n wynebu pedwar cyhuddiad pellach o fod â dogfennau terfysgol yn ei feddiant.

Daw'r cyhuddiadau wedi cyrch gan swyddogion gwrth-derfysgaeth ar dŷ yn ardal Elái, Caerdydd ddydd Mercher.

Mae'r heddlu'n dal i holi ail berson ynglŷn â'r achos.

Cafodd menyw 51 oed ei harestio ar amheuaeth o fod â deunydd ffrwydrol yn ei meddiant wedi'r cyrch ddydd Mercher.

Dywedodd pennaeth Uned Gwrth-Derfygsaeth ac Eithafiaeth Cymru, y Ditectif Uwcharolygydd Jim Hall: "Mae ein hymchwiliad yn parhau, ond mae'n rhaid pwysleisio nad oed tystiolaeth i awgrymu bod yna unrhyw fygythiad terfysgol penodol i Gaerdydd na bod yna risg uwch i bobl yng Nghaerdydd.

"Fodd bynnag, rydym yn atgoffa pobl i barhau i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod i'r heddlu am unrhyw amheuon."

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV Roxanne leaves Celebrity Big Brother house after 'punch'
NEXT Glamorgan sign South Africa batsman Stephen Cook for season's end